Cyfarwyddwyr Gweithredol
Marc Bolland
Prif Weithredwr
Ymunodd Marc Bolland â'r Grŵp ar 1 Medi 2006 fel Prif Swyddog Gweithredol, o gwmni Heineken NV, yn yr Iseldiroedd, lle bu, yn fwyaf diweddar, yn Brif Swyddog Gweithredol ac yn aelod o'r bwrdd gweithredol. Daliodd nifer o swyddi uwch gyda Heineken dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys cyfrifoldeb am y strategaethau brand a marchnata. Mae hefyd ar hyn o bryd yn un o Gyfarwyddwyr Anweithredol cwmni Manpower Inc.
Mark Gunter
Cyfarwyddwr Gweithrediadau Siop y Grŵp
Ymunodd Mark Gunter â'r Grŵp ym 1986 fel Rheolwr Cyffredinol Siop. Ym 1993 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Rhanbarthol, ac ar ôl hynny'n Gyfarwyddwr Siopau ym 1999. Cafodd ei benodi i Fwrdd y Grŵp yn 2000 fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Siop, gyda chyfrifoldeb ychwanegol am weithrediadau adwerthu, adwerthu tanwydd, prosiectau adwerthu, a diogelwch ledled y Cwmni. Cyn ymuno â Morrisons, enillodd brofiad helaeth o adwerthu bwyd yn y DU, gan gynnwys gweithio i gwmnïau Iceland, Fine Fare, Tesco, Argyll Foods ac Asda.
Martyn Jones
Cyfarwyddwr Masnachu'r Grŵp
Ymunodd Martyn Jones â'r Grŵp ym 1990 fel Rheolwr Masnachu dros rewfwydydd, cyn cael ei ddyrchafu'n Gyfarwyddwr Gweithrediadau Masnachu ym 1993. Cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Gwerthu Bwydydd ym 1997, ac yna'n Uwch Gyfarwyddwr Masnachu yn 2002. Cafodd ei benodi i Fwrdd y Grŵp ar 8 Mawrth 2007.
Roger Owen
Cyfarwyddwr Eiddo'r Grŵp
Bu Roger Owen yn gweithio i'r Grŵp ers 1975, a chafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Adeiladu a Gwasanaethau ym 1979. Ymunodd â'r Bwrdd ym 1987 fel Cyfarwyddwr Eiddo, ac mae ganddo'r cyfrifoldeb llawn am gaffael safleoedd, adeiladu, a rheoli ystadau.
Richard Pennycook
Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp
Ymunodd Richard Pennycook â'r Grŵp fel Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp yn Hydref 2005. Mae'n gyfrifydd cymwysedig ac yn aelod o'r ‘Society of Turnaround Professionals’. Cyn ymuno â'r Grŵp, bu'n Gyfarwyddwr Cyllid Grŵp RAC Plc, y cwmni moduro a rheoli cerbydau arbenigol a ddyfynnir ar y farchnad stoc. Cymerodd ran, yn rôl Cyfarwyddwr Cyllid, yn y gwaith o adfer sefyllfa cwmnïau H P Bulmer Holdings PLC, Welcome Break Holdings Ltd a Laura Ashley Plc. Mae ei rolau blaenorol eraill yn cynnwys Cyfarwyddwr Cyllid cwmni J D Wetherspoon plc, ac amryfal swyddi uwch yng nghwmni Allders plc.
Cyfarwyddwyr Anweithredol
Syr Ian Gibson
Gadeirydd
Ymunodd Syr Ian Gibson â Morrisons fel Dirprwy Gadeirydd Anweithredol ym Medi 2007. Mae hefyd yn Gadeirydd Anweithredol cwmni Trinity Mirror PLC. Mae ei benodiadau blaenorol i Fyrddau'n cynnwys bod yn Gadeirydd BPB PLC, Dirprwy Gadeirydd Asda Group PLC, ac un o Gyfarwyddwyr Chelys Limited Plc, GKN PLC, Greggs Plc a Northern Rock Plc, ac yn aelod o Lys Banc Lloegr. Cafodd Syr Ian yrfa 30 mlynedd nodedig yn y diwydiant moduron, yn fwyaf diweddar fel Llywydd Nissan Europe.
Brian Flanagan
Cafodd Brian Flanagan ei benodi i'r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ym mis Gorffennaf 2005. Mae'n aelod o'r Pwyllgorau Archwilio, Enwebu a Thaliadau. Mae hefyd yn un o Gyfarwyddwyr Anweithredol yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol a chwmni Personal Navigation Systems Limited. Mae wedi gweithio'n flaenorol i Gorfforaeth Mars am 26 o flynyddoedd, ac mae ganddo brofiad helaeth o fusnes rhyngwladol. Mae wedi dal swyddi uwch reolwr ym meysydd cyllid, systemau gwybodaeth, gweithgynhyrchu a phrynu, ac yn fwyaf diweddar bu'n Is-lywydd byd-eang Gweddnewid Busnes i Mars Inc.
Paul Manduca
Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol
Cafodd Paul Manduca ei benodi'n Gyfarwyddwr Anweithredol ym Medi 2005. Mae'n aelod o'r Pwyllgorau Archwilio, Enwebu a Thaliadau, a daeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio o 20 Hydref 2005. Mae hefyd yn un o Gyfarwyddwyr cwmnïau Aon UK Limited, Development Securities PLC, JPMF European Fledgling Investment Trust Plc, JSC KazMunaiGas Exploration Production Plc, Henderson Diversified Income plc, a chwmnïau eraill. Tan yn ddiweddar bu'n Gadeirydd cwmni Bridgewell Group plc. Cyn hynny, bu'n Brif Swyddog Gweithredol Byd-eang Rothschild Asset Management Limited ac yn un o Gyfarwyddwyr Deutsche Asset Management Limited.
Susan Murray
Cafodd Susan Murray ei phenodi'n Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Gorffennaf 2005. Mae'n aelod o'r Pwyllgorau Archwilio, Enwebu a Thaliadau, a daeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau o 20 Hydref 2005. Ar hyn o bryd, mae'n un o Gyfarwyddwyr Anweithredol cwmnïau Compass Group plc, Enterprise Inns plc a Imperial Tobacco Group Limited.
Nigel Robertson
Ymunodd Nigel Robertson â'r Grŵp fel Cyfarwyddwr Anweithredol ym mis Gorffennaf 2005. Mae'n aelod o'r Pwyllgorau Archwilio, Enwebu a Thaliadau. Yn fwyaf diweddar bu'n Brif Swyddog Gweithredol cwmni Chelsea Stores Holdings Ltd. Cyn hynny bu'n Rheolwr-Gyfarwyddwr cwmni Ocado, y busnes gwerthu bwydydd ar-lein a sefydlwyd mewn partneriaeth â chwmni Waitrose. Cyn hynny daliodd swyddi uwch yn Marks and Spencer Group PLC yn y DU ac yn UDA.