Dod â’r Amgylchfyd yn Nes Gartref
Ymgyrch yw CSV Action Earth sy’n cael ei chydgysylltu gan yr elusen genedlaethol CSV Environment ac yn cael ei chefnogi gan Morrisons Supermarkets am yr ail flwyddyn yn olynol.
Y nod yw cynnwys miloedd o bobl o fewn 900 o gyrff gwirfoddol, ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol ledled y DU mewn prosiectau a fydd o les yn syth ac yn barhaol i’r amgylchfyd.
Gall prosiectau gwmpasu ystod eang o weithgareddau e.e. plannu coed, gwella llwybrau troed, gwneud blychau nythu neu glwydo i adar ac ystlumod, gwaith rheoli coedwigoedd, glanhau tir diffaith, cynlluniau ailgylchu a phlannu oddfau a llwyni. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu dysgu sgiliau newydd, cyfrannu at wella eu hardal eu hunain, mynd yn fwy gwybodus am faterion amgylchfydol, cael cydnabyddiaeth am gymryd rhan a chael hwyl.
Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn gymwys i dderbyn grant bach o hyd at £50 i helpu i gwrdd â chostau cyfarpar, defnyddiau a lluniaeth i wirfoddolwyr.
Mae’r rhaglen yn arbennig o awyddus i dargedu ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd sydd o dan anfantais gymdeithasol ac i dynnu pobl i mewn na fuon nhw’n cymryd rhan mewn gwaith amgylchfydol o’r blaen.
Gall gwirfoddolwyr gofrestru eu prosiect ar lein drwy fynd i www.csv.org.uk/actionearth / www.actionearth.org.uk neu gallan nhw alw 0121 328 7455 (gadewch eich cyfeiriad post llawn) i gael pecyn prosiect.