Rydym yn un o gadwynau archfarchnadoedd mwyaf y wlad, gan gynnig dewis o nwyddau sy’n cynnwys cynhyrchion brand a chynhyrchion o dan ein label ein hunain. Ein nod yw darparu’r gwerth gorau un am arian ar gyfer ein holl gwsmeriaid, ble bynnag y maent yn byw. Ac rydym yn unigryw yn y ffaith ein bod wastad wedi codi’r un prisiau am nwyddau ym mhob un o’n siopau mawrion.
Rydym yn rheoli bron bob agwedd ar ein gweithrediad masnachol yn fewnol, gan gynnwys ffrwythau a llysiau ffres, bwyd ffres, prosesu cig, a chludiant.
Mae cwmni Wm. Morrison Produce Limited yn prynu, yn pacio ac yn dosbarthu’r holl ffrwythau a llysiau sy’n cael eu gwerthu yn ein siopau. Mae cynnyrch ffres yn cael ei ddanfon i’n warysau rheoledig o ran tymheredd, ac i’n ffatrïoedd pacio, yn y DU a thramor, yn barod i’w hanfon ymlaen i’n siopau ledled y wlad.
‘Farmer’s Boy’ yw ein ffatri bwyd ffres bwrpasol, ac mae’n cynhyrchu pitsas, pasteiod, cigoedd wedi eu coginio, a selsig, yn ogystal â phacio caws a chig moch.
Rydym hefyd yn berchen ar ddau gyfleuster prosesu cig lle mae cig eidion, porc a chig oen yn cael eu paratoi a’u cyflenwi’n uniongyrchol i’r cigyddion yn ein siopau, ac rydym yn gweithredu ac yn cynnal ein cerbydau cludo ein hunain.