Ar ein cownter cigyddiaeth, fe gewch gigydd sy’n gallu torri a pharatoi cig yn y dull traddodiadol. Yn wir, mae dros 1000 o gigyddion hyfforddedig yn siopau Morrisons. Felly, pan fyddwch yn gofyn am ddarn arbennig, neu’n dymuno cael cyngor ynglŷn â sut i’w goginio, byddwch yn siarad â chigydd go iawn sy’n wirioneddol frwdfrydig am gig.
Gallwch ofyn am yr union beth y mae arnoch ei eisiau, ac fe allwn ei baratoi yn y fan a’r lle, boed yn glwyd cig oen ynteu’n stecen ffiled o’r ansawdd gorau. Rydym yn cynnig dros 150 o wahanol fathau o ddarn cig ym mhob siop — mwy nag unrhyw archfarchnad arall.
Ym Morrisons, rydym yn hoffi gwybod o ble mae ein cig yn dod. Felly — p’un ai’r ydyw’n gig eidion, porc, cig oen neu dwrci — rydym yn cael y rhan fwyaf ohono’n uniongyrchol gan ffermwyr Prydeinig yr ydym yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Rydym yn dethol ac yn pacio 90% o’n holl gig ffres drwy ein cyfleuster gweithgynhyrchu ein hunain, sy’n golygu bod gennym reolaeth gyflawn dros yr hyn sy’n cyrraedd ein siopau. Ac rydym yn sicrhau ein bod yn cael nwyddau o’r ansawdd gorau i chi am y pris gorau posibl.
Gofynnwch i’r cigydd: cwestiynau cyffredin yn cael eu hateb gan un o’n harbenigwyr cig o’r siop.
Mae un o gigyddion Morrisons, Peter Hill, yn dweud wrthon ni am ei ddiwrnod gwaith.
See this page in English.
Enter your location (town or postcode).
Sign up to create your online Morrisons binder and get the latest offers and competitions!
Go to my binder
Browse through our recipes to plan your perfect menu.