Mae ein ffrwythau a’n llysiau’n cael eu cyrchu o ffermydd sydd wedi eu dethol yn arbennig, fel ein bod yn gallu gwarantu cynnyrch o’r ansawdd uchaf un. Rydym hefyd yn stocio saladau parod, llysiau wedi eu rhagolchi, ffrwythau a llysiau organig, a hyd yn oed ddewis o blanhigion a blodau ffres.
Lle bo’n bosibl, rydym yn prynu’n uniongyrchol gan y tyfwyr. Mae hyn yn ein helpu i gadw’r ansawdd yn gyson uchel, a’r prisiau’n ddibynadwy o isel. Fe gewch ein bod yn prisio pethau’n deg hefyd. Er enghraifft, rydym yn torri’r bonion oddi ar frocoli, fel eich bod yn talu am yr hyn y byddwch yn ei ddefnyddio’n unig. Ac os oes arnoch angen unrhyw gyngor, neu os ydych yn teimlo fel rhoi cynnig ar rywbeth newydd, mae ein harbenigwyr Stryd y Farchnad bob amser yn hapus i helpu.
Rhai cwestiynau cyffredin yn cael eu hateb gan un o’n harbenigwyr ffrwythau a llysiau o’r siop.
See this page in English.
Enter your location (town or postcode).
Sign up to create your online Morrisons binder and get the latest offers and competitions!
Go to my binder
Browse through our recipes to plan your perfect menu.