Beth yw’r tatws gorau i’w rhostio?
Dyma’r cwestiwn tragwyddol i’r gwerthwr llysiau. Yn fy marn i, mae’r daten ‘King Edward’ gyffredin yn ddiguro fel taten rostio dda. Mae’n cael ei nodweddu gan y cyfuniad perffaith hwnnw o du allan crisbin a thu mewn gwlanog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lledferwi’r tatws mewn dŵr wedi’i halltu am tua phum munud cyn eu rhostio. Dylech eu draenio a gadael iddynt fynd mor sych â phosibl cyn mynd ymhellach. Tric da yr wyf wedi ei ddysgu yw cynhesu’r olew (rwy’n defnyddio olew llysiau, neu saim gŵydd os byddaf yn teimlo’n hunanfaldodus) cyn arllwys y tatws i’r tun rhostio — yn y modd hwnnw, byddwch yn sicrhau eu bod yn amsugno llai o olew ac yn crisbinio’n well. Mae bastio’ch tatws yn ychwanegu ychydig o flas hefyd.
Ddylech chi dorri patrwm croes ar ysgewyll cyn eu coginio?
Yn fy marn i, dylech. Pwynt y groes yw helpu’r ysgewyll i goginio’n gyflymach, ond heb eu gorgoginio. Wedi’r cwbl, does neb yn hoffi ysgewyllen soeglyd, nac oes? Mewn gwirionedd, dylech dorri ysgewyll mwy yn eu hanner cyn eu coginio, fel bod eich holl ysgewyll o’r un maint, mwy neu lai. Yn y modd hwnnw gallwch eu coginio i gyd i’r un radd o soletrwydd heb orgoginio’r rhai bychain na thangoginio’r rhai mawr. Rwy’n eithaf hoff o ffrio fy ysgewyll yn ysgafn, neu eu rhostio, yn hytrach na dim ond eu berwi, gan fod hyn yn helpu i gadw’r gwead ac amlygu eu blas.
Pa berlysiau alla’ i eu hysgeintio ar foron wedi eu berwi, er mwyn ychwanegu at y blas?
Gallwch wella ychydig ar flas eich moron berwedig drwy ychwanegu perllys ffres mân, rhosmari a theim. Mae cwmin yn mynd yn dda gyda moron gwirioneddol ifanc hefyd — mae chwerwedd ysgafn y cwmin yn gwneud gwyrthiau â melyster y moron. Rhowch gynnig ar eu berwi gydag ewinedd garlleg hefyd. Neu fe allwch eu rhostio mewn ychydig o olew olewydd, digon o bupur a joch o sudd lemon.
Wrth goginio cig oen, beth sy’n ddewis da yn lle rhosmari ar gyfer blasau a sesnin?
Mae dil, teim a mintys i gyd yn gweithio’n dda gyda chig oen. Ac fe allwch roi cynnig ar rychu’r golwyth cig oen a gwthio tafelli o arlleg i mewn i’r rhychau, hefyd. Yn ogystal â defnyddio perlysiau, gallwch arbrofi gyda rhwbio gwahanol fathau o sesnin i mewn — un o’m ffefrynnau arbennig yw cwmin, sy’n rhoi blas sbeislyd go arbennig i’r cig. Fel llysiau i fynd gyda’ch cig oen, rhowch gynnig ar bannas wedi eu rhostio, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Maent yn cyd-fynd yn rhagorol â’r saws mintys.
Sut y gallaf gadw ffrwythau’n ffres am gyfnod hirach?
Y ffordd symlaf o gadw’r rhan fwyaf o ffrwythau’n ffres yw eu cadw’n oer. Rwy’n tueddu i gadw’r rhan fwyaf o ffrwythau yn y rhewgell, gyda dim ond ychydig yn cael eu harddangos yn y fowlen ffrwythau. Ni ddylid cadw bananas yn y rhewgell, ond mae’n syniad da i’w cadw ar wahân i ffrwythau eraill, gan eu bod yn tueddu i achosi i ffrwythau eraill aeddfedu’n llawer cyflymach.
Ydi storio cnau mewn cynhwysydd aerglos yn eu cadw’n ffres yn hirach?
Mae angen i chi gadw cnau mewn rhywle sych, allan o oleuni uniongyrchol, er mwyn gwarchod eu lliw a’u gwead. Rwy’n eu cadw mewn cynhwysydd plastig aerglos mewn cwpwrdd tywyll.
Am ba hyd y mae pompiynau’n para?
Fel rheol, os nad ydynt wedi eu torri, byddant yn para’n hir. Mae holl aelodau teulu’r pompiwn yn wahanol i’w gilydd - mae rhai, megis pwmpenni a chicaionau, yn para am fisoedd, tra bod eraill ddim ond yn para ychydig wythnosau. Gallwn eich helpu gyda chyngor ynglŷn â sut i storio a defnyddio’r gwahanol fathau o bompiynau, a gallwn roi ryseitiau ardderchog i chi hefyd. Cawl pompiynau cnau menyn wedi eu rhostio, yn ddi-os, yw un o’m hoff fwydydd ar gyfer cynhesu fy hun yn y gaeaf.
Pa lysiau ar wahân i bigoglys sy’n cynnwys haearn?
Does dim angen i chi lowcio meintiau enfawr o bigoglys, fel y byddai Popeye, er mwyn cael yr haearn y mae arnoch ei angen. Rwy’n dweud hynny oherwydd ‘mod i’n gwybod bod llawer o bobl yn methu â bwyta mwy na thipyn bach ohono. Mae haearn i’w gael yn yr holl lysiau deiliog ac mewn unrhyw beth sy’n cynnwys grawn cyflawn, megis bara a grawnfwyd, a hefyd mewn rhai mathau o ffa, megis ffa Ffrengig, ffa soia a ffa Lima. Cofiwch fod fitamin C yn helpu’ch corff i amsugno haearn yn well, felly mae bwyta digon o ffrwythau citrws yn ogystal â llysiau’n helpu eich amsugnad o haearn.