Cyfarfod y gwerthwr pysgod

Cyfarfod y gwerthwr pysgod

Yma rydym yn sgwrsio ag un o’n gwerthwyr pysgod tra hyfforddedig, i gael gwybod mwy am y pysgod a’r bwyd môr sydd ar gael ym Morrisons.

O Dorgoch yr Arctig i Wichiaid Moch, mae Brian Dixon, gwerthwr pysgod, yn gwybod mwy nag ychydig am bysgod. Yn ei rôl fel Rheolwr Pysgod yng nghangen Morrisons yn Gamston, Nottingham, mae’n rhedeg cownter pysgod y siop — un crwm traddodiadol, sy’n darparu’r canolbwynt perffaith ar gyfer dewis eang o bysgod ffres, pysgod mwg a bwyd môr.

Mae creu cownter pysgod mor drawiadol yn gofyn llawer o waith paratoi. “Mae fy niwrnod yn dechrau am 6am. Rydym yn gosod y rhew ffres ar y cownter yn barod am nwyddau ffres y dydd rhwng 6.30 a 7am,” eglura Brian. “Ym Morrisons rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ffresni, felly byddwn yn paratoi’r eogiaid Albanaidd bob dydd yn y siop. Hefyd, mae’r pysgod yr ydym yn eu derbyn bob dydd yn dibynnu ar beth mae’r farchnad wedi bod yn ei wneud. Felly, os yw’r tywydd wedi bod yn dda a’r pysgotwyr wedi cael dalfa dda, efallai y byddwn yn cynnal hysbysebiad ynglŷn â math penodol o bysgodyn.”

Dewis rhagorol

Mewn gwirionedd, mae Morrisons yn gwerthu mwy na 50 o rywogaethau pysgod dŵr hallt a physgod dŵr croyw, yn ogystal â physgod cregyn, felly mae ymweliad â chownter pysgod eich cangen leol o Morrisons yn debygol o agor eich llygaid i rai mathau ychydig llai cyfarwydd o bysgod. “Ochr yn ochr â’r ffefrynnau poblogaidd megis Tiwna, Hadog ac Eogiaid Albanaidd, rydym yn gwerthu mathau mwy anghyffredin megis Penhaearn Coch a Tilapia,” meddai Brian. “Yn aml bydd pobl yn dod i mewn ac yn dymuno blasu rhywbeth y maent wedi ei fwyta ar wyliau, felly mae pysgod megis ‘Red Snapper’ yn dod yn fwy poblogaidd hefyd. Rydym hefyd yn cyflwyno cynhyrchion newydd drwy’r amser,” meddai. “Dau sy’n newydd i ni yn siop Gamston yw Lleden a Gwrachen Ddu.”

Mae’r amrywiaeth eang o bysgod sydd ar gael yn golygu bod Brian a’i dîm yn cymryd gofal mawr dros gyflwyniad y cownter. “Unwaith y bydd y nwyddau i gyd wedi cyrraedd, byddwn yn treulio tuag awr a hanner yn gosod y pysgod ffres mewn trefn ar y cownter fel ei fod yn edrych mor atyniadol â phosibl,” meddai Brian. “Mae gwneud i’r cownter edrych yn ddeniadol yn rhywbeth yr wy’n ymfalchïo’n fawr ynddo.”

Cyngor arbenigol

Am 8.30am bydd y siop yn agor, ac mae Brian a’i dîm yn barod i gyfarfod cwsmeriaid y dydd. “Mae cynnig cyngor i gwsmeriaid yn rhan fawr o’n gwaith,” meddai Brian. “Rydym yn hapus i baratoi’r pysgod ym mha fodd bynnag y mae’r cwsmer yn ei ddymuno, o ddigennu a diesgyrnu i dynnu’r croen a ffiledu.”

Mae’r gwerthwyr pysgod ym Morrisons wedi eu hyfforddi hefyd i roi cyngor ynglŷn â choginio, hyd yn oed ar gyfer rhywogaethau mwy ‘egsotig’ megis môr-lewys ac octopws. “Fy mhrif gyngor ynglŷn â choginio pysgodyn yw peidio â’i orgoginio, er mwyn iddo aros yn llaith,” meddai Brian. “Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth benthyca padell bysgod yn ddi-dâl yn y siop (am flaendal bychan) fel bod cwsmeriaid yn gallu rhoi cynnig ar botsio pysgodyn cyfan.” Yn olaf, er mwyn sicrhau ffresni, mae pysgod o’r cownter yn cael eu lapio a’u selio mewn codenni ffoil fel eu bod yn aros yn ffres ac yn oer ar eich taith adref.

Cynaliadwyedd

Mater arall sy’n bwysig i gwsmeriaid yw tarddiad y pysgod (h.y. o ble maent wedi dod). “Byddwn yn aml yn cael cwsmeriaid yn gofyn a yw pysgodyn wedi ei ffermio ynteu’n bysgodyn gwyllt — mae’n ymddangos bod hyn o ddiddordeb mawr iddyn nhw,” meddai Brian. “Ym Morrisons, mae ein holl bysgod yn dod o ffynonellau cynaliadwy. Mae nifer go dda ohonynt yn cael eu dal â leiniau pysgota, ac rydym yn gwneud yn siŵr nad ydym yn stocio pysgod sydd mewn perygl, megis marlyn.”

I helpu cwsmeriaid i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynglŷn â’r bwyd y maent yn ei brynu, mae Morrisons wedi cyflwyno trefn labelu newydd ar gyfer pysgod, sy’n nodi tarddiad y pysgodyn — yr ardal lle cafodd ei ddal neu ei ffermio — a’r dull dal. “Mae ein cwsmeriaid yn dod yn eitha gwybodus ynglŷn â bwyd ac o ble mae’n dod,” meddai Brian. “Er enghraifft, maen nhw’n dechrau chwilio am ddewisiadau eraill yn lle Penfras, megis Morlas a Baramwndi. Yn achos Baramwndi, yn hytrach na’i hedfan yma o Awstralia, rydym wedi dechrau gwerthu Baramwndîod sy’n cael eu ffermio yn ardal y ‘New Forest’, felly rydym yn cefnogi cynhyrchwyr lleol ac yn arbed milltiroedd hedfan bwyd.”

Ar ben y dosbarth

Mae Brian wedi bod yn werthwr pysgod ers dros ddeng mlynedd — fe ymunodd â Morrisons fel rheolwr dan hyfforddiant. “Fe weithiais mewn llawer o wahanol adrannau, ac ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf fe benderfynais arbenigo mewn pysgod — mae’n faes diddorol iawn.” Yn fwy diweddar, arddangosodd Brian ei sgiliau ym Mhencampwriaeth Crefft Pysgod Prydain 2006, lle’r oedd yn ail orau. Yr oedd y gystadleuaeth hon, sy’n denu ymgeiswyr ar draws y diwydiant ac yn cael ei chynnal yn Llundain, yn profi gwerthwyr pysgod ar nifer o sgiliau, gan gynnwys ffiledu a blingo pysgod o fewn amser penodedig. “Roedd cystadlu yn erbyn pobl eraill yn gryn dipyn o straen, ond roedd yn brofiad gwirioneddol dda,” meddai Brian.

Am 4pm, mae diwrnod gwaith Brian ar ben. “Mae’n ddiwrnod hir, ond mae bob amser yn ddiddorol,” meddai. “Ein rôl fel gwerthwyr pysgod proffesiynol yw cael pobl i ddod dros eu syniadau negyddol am bysgod, a’u haddysgu a’u perswadio, gobeithio, i roi cynnig ar bethau newydd.”

See this page in English.

Store finder

Store finder

Enter your location (town or postcode).

My binder

Sign up to create your online Morrisons binder and get the latest offers and competitions!

Recipe search

Recipe search

Browse through our recipes to plan your perfect menu.

Detailed search