Beth yw’r dull iachaf o goginio pysgod?
I gael y seigiau pysgod iachaf, stemio neu botsio yw’r dewis gorau, gan nad oes gofyn menyn nac olew ar gyfer y rhain. Yn achos pysgodyn mwy cigog, megis Tiwna, dylech ei flasuso, a bwrw ychydig bach o olew olewydd drosto, a’i goginio o dan y gridyll neu ddefnyddio padell radell. Sut bynnag y byddwch yn ei goginio, mae pysgodyn wrth natur yn llawn o brotein, fitaminau a mwynau — mae lefel y braster mewn pysgod gwynion, yn enwedig, yn isel iawn. Os byddwch yn coginio unrhyw bysgodyn gyda chynhwysion iach — yn enwedig brocoli, sy’n mynd yn eithriadol o dda gydag unrhyw bysgodyn yn fy marn i — fe fydd hynny bob amser yn ddewis iach a maethlon.
Beth sy’n ddewis da yn lle penfras?
Am rywbeth gyda blas tebyg i Benfras, buaswn i’n defnyddio Cegddu, Hadog neu Forlas, sydd i gyd o deulu’r Penfras. Am gnawd gwyn cadarn o’r un fath — sef yr hyn yr wy’n ei hoffi orau am y Penfras — rhowch gynnig ar y Baramwndi. Mae hwn yn bysgodyn rhagorol, sy’n wirioneddol flasus ac yn un y gallwch ei goginio mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Mae’n tarddu’n wreiddiol o Awstralia, ac rwy’n hoff iawn o’i flas coeth. Mae ein Baramwndi ni’n dod o ffermydd yn ardal y ‘New Forest’, credwch neu beidio, yn hytrach nag o hemisffer y de. Mae hynny’n golygu ein bod yn cefnogi cynhyrchwyr lleol ac yn arbed milltiroedd hedfan bwyd hefyd! Os byddwch yn ei drio, blasuswch ef yn ysgafn, gwasgwch ddigon o sudd leim drosto, a’i goginio’n dda — am tua phum munud ar bob ochr — mewn padell ffrio fas gydag ychydig o olew. Ysgeintiwch ychydig o goriander drosto, a dyna chi i’r dim!
Sut y gallaf gadw fy mhysgod yn ffres?
Gallwn eich helpu i wneud hynny — dim problem. Mae ein pysgod yn cael eu danfon yn ffres bob bore, eu torri yma yn y siop, a’u harddangos ar rew er mwyn eu cadw’n oer ac yn ffres. Felly, pan fyddwch yn prynu pysgod, rydych yn gwybod eu bod yn ffres o’r siop. A beth bynnag y byddwch yn ei brynu o’r cownter pysgod, byddwn yn ei selio mewn coden ffoil er mwyn iddo aros yn oer ar gyfer eich taith adref. Wedyn, y cwbl sydd ei angen yw ei dynnu allan o’r goden, ei orchuddio, a’i daro yn y rhewgell. Sut mae modd gwybod os yw pysgodyn yn ffres? Mae llygaid clir, gloyw’n arwydd da bob amser. Yn rhyfedd iawn, po leiaf yr arogl pysgod sydd arno, mwyaf ffres y mae’r pysgodyn yn dueddol o fod.
Fydd pysgodyn yn colli llawer o’i flas os byddaf yn ei rewi?
Na fydd — yn fy mhrofiad i, nid yw’n colli llawer o flas. Os byddwch yn dymuno rhewi pysgod, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu prynu mor ffres ag sy’n bosibl — ni ddylech fyth ail-rewi pysgod. Nid oes dim o’n pysgod yn cael eu dadlaith o gyflwr rhewedig, felly dylai fod yn iawn i rewi unrhyw beth yr ydych wedi ei brynu o’r cownter. Ond holi sydd orau. I gael y canlyniadau gorau, lapiwch y pysgodyn mewn ffoil neu haenen lynu a’i roi mewn cynhwysydd plastig cyn i chi ei roi yn y rhewgist. Bydd angen i bysgod cyfan gael eu diberfeddu a’u glanhau’n gyntaf hefyd, ond gallwn wneud hynny ar eich cyfer. I gadw’r blas, dylech ddadrewi’r pysgodyn yn araf bob amser — dros nos os yw’n bosibl — yn y rhewgell.
Beth yw’r ffordd orau i goginio pysgodyn cyfan?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i ni ddewis pysgodyn o’r maint cywir, a’i ddiberfeddu, ei ddiesgyrnu a thynnu’r cennau oddi arno ar eich cyfer. Mae’r cwbl yn rhan o’r gwasanaeth. I gadw’r cnawd yn llaith a choginio’r pysgodyn drwodd yn wastad, rwy’n awgrymu y dylid ei botsio mewn padell bysgod. Y cwbl sydd ei angen yw ychwanegu dŵr, isgell a pha bynnag flasau eraill yr ydych yn eu ffansïo — mae nionyn, seleri, dail llawryf, perllys a theim yn gweithio’n dda. Gallwn fenthyca padell bysgod i chi (am flaendal ad-daladwy o £10), felly gallwch roi cynnig arni heb dalu am eich padell eich hun. Fel dewis arall, allwch chi mo’i methu hi rhyw lawer os byddwch yn rhostio pysgod, ond y peth gorau i’w wneud yw chwilio mewn rysáit er mwyn cadarnhau’r amseriadau ac ati.
Beth yw’r gwahaniaeth, ar wahân i faint, rhwng mathau o gorgimwch?
I un fel fi sy’n dwli ar gorgimychiaid, mae pob math o wahaniaethau cynnil mewn blas a chnawd. Ond at ei gilydd, y maint yw’r gwahaniaeth mwya’ amlwg. Rydych yn debygol o ganfod corgimychiaid teigr a chorgimychiaid Gogledd Iwerydd yn y siop, yn ogystal â berdys, sydd yn hyfryd o felys (math o gorgimwch yw’r rheiny hefyd). Am y blas gorau, byddaf bob amser yn dewis corgimychiaid ffres yn hytrach na rhai sydd wedi eu rhewi. Hefyd, mae’n ymddangos bod yn well gan y rhan fwyaf o bobl y rhywogaethau dŵr oer — megis corgimychiaid Gogledd Iwerydd — gan fod eu cig yn fwy suddlon a blasus.
Alla’ i archebu pysgod i’w casglu ar ddiwrnod penodol?
Gallwch wrth gwrs. Y cwbl sydd ei angen yw rhoi 48 awr o rybudd i ni, ac fel rheol dylai’ch pysgod ffres fod yn barod i’w casglu ar y cownter pysgod — ar yr amod bod y rhywogaeth yn gynaliadwy a’i bod yn ei thymor.
Yn bersonol, allwch chi glywed y gwahaniaeth rhwng blas pysgod gwyllt a physgod sydd wedi eu ffermio?
Does dim gwahaniaeth enfawr mewn blas yn fy marn i. I mi, yr hyn sy’n bwysig yw ble mae’r pysgod yn cael eu dal neu’u ffermio ac, wrth gwrs, beth maent wedi bod yn ei fwyta. Fy safbwynt i yw mai’r cwestiwn pwysicaf yw a ddaeth y pysgod o ffynhonnell gynaliadwy — rhywbeth sy’n bwysig i Morrisons hefyd. Mae llawer o’n pysgod wedi eu dal â leiniau pysgota, sy’n lleihau effaith pysgota ar yr amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae gwybodaeth am darddiad eich pysgodyn, sut y cafodd ei ddal, a materion tebyg, yn cael ei harddangos ar y cownter ac ar y papur lapio. Os hoffech wybod mwy, y cwbl sydd ei angen yw holi’r gwerthwr pysgod.
See this page in English.