Mae’r cyfan o’n 1800 o bobyddion wedi eu hyfforddi mewn sgiliau crefft pobi, o bobi sgonau a bara i ffrio toesenni — hyfforddiant sy’n gwneud unigolyn di-grefft yn bobydd sefydlog mewn 9 mis.
Felly beth am wneud defnydd llawn o’r arbenigedd hwn a gofyn i un o’n pobyddion am argymhelliad? Rydym yn gwneud 127 o wahanol fathau o fara, gan gynnwys mathau arbennig megis ein ‘Bloomer’ Pwylaidd, ‘Tiger Bloomer’ a’r Bara Carwe Tŷ Fferm Gorau, sydd i gyd yn cael eu gwneud yn yr adeilad.