Beth yw’r gwahaniaeth rhwng bara cyflawn a bara gwyn? Ac ydi hi’n wir mewn difri fod bara cyflawn yn well i mi na bara gwyn (sydd wrth fy modd)?
Y rheswm am y gwahaniaeth yw’r math o flawd yr ydym yn ei ddefnyddio. Mae blawd gwyn wedi ei goethi, sy’n golygu bod y bran a’r bywyn gwenith (y deunydd gwirioneddol dda) wedi eu tynnu allan. Does dim byd yn cael ei dynnu allan o flawd gwenith cyfan, sy’n golygu ei fod yn llawn dop o bethau megis ffibr, fitaminau, mwynau a phrotein sy’n hanfodol ar gyfer diet iach. Maent yn gallu bod yn gymorth yn erbyn clefyd y galon a chancr y colon. Does dim angen i chi osgoi bara gwyn yn gyfan gwbl, ond trïwch fwyta bara cyflawn hefyd, a chwiliwch am ffynonellau grawn cyflawn eraill, megis grawnfwydydd.
Fe hoffwn roi cynnig ar bobi fy mara fy hun. Pa mor hawdd yw hynny?
Mae yna rywbeth boddhaol iawn ynglŷn â phobi eich bara eich hun o bryd i’w gilydd. Mae’n llawer haws ers i’r pobwr bara cartref gael ei ddyfeisio. Bellach, rydym yn cynnig dewis o gymysgeddau bara parod i’ch helpu i ddechrau, yn ogystal â’r holl gynhwysion y mae arnoch eu hangen ar gyfer cychwyn arbrofi gyda’ch ryseitiau bara eich hun. Gofynnwch wrth y cownter os oes arnoch angen rhagor o gyngor.
Rwyf wrth fy modd ag eog mwg, ond fe hoffwn ei fwyta ar rywbeth heblaw bara brown. Unrhyw awgrymiadau?
Mae eog mwg yn un o’r gwir ffefrynnau adeg y Nadolig. Mae ganddo flas rhagorol, ac mae mor amlochrog hefyd. I drïo rhywbeth newydd sy’n soffistigedig iawn, rhowch ddarnau bychain o eog ar sgwariau o fara soda brown Gwyddelig gyda menyn arno. Mae’n creu cyfuniad gwych o flasau a gweadau. Neu fe allech drïo tost Melba. Gan ddefnyddio sleisen go drwchus o dorth toes sur, dyweder, tostiwch sleisen ar ei dwy ochr o dan y gridyll. Yna torrwch y sleisen yn ddwy yn ofalus, yn ei hyd, gan wneud dwy sleisen o hanner y trwch gwreiddiol. Yna tostiwch y ddau du mewn o dan y gridyll. Byddant yn grensiog ac yn flasus. Ond byddwch yn ofalus — does ond angen tostio am ychydig eiliadau.
Beth yw’r ffordd orau i wneud i dorth barhau’n hirach?
Os nad ydych yn bwyta bara’n fuan ar eich aelwyd chi, rhowch hanner y dorth yn y rhewgist. Mae’n ffordd hawdd o wneud i’r dorth barhau’n hirach. Mae golchi’ch bin bara’n rheolaidd, a’i sychu â finegr, yn ffordd dda o gadw llwydni draw, ac mae’n syniad da i dorthau sydd heb eu tafellu gael eu cadw yn eu papur lapio hefyd.
Ydi hi’n wir o ddifri fod croissants yn llai iach na rholiau bara cyffredin?
Does dim byd yn afiach os byddwch yn ei fwyta’n gymedrol. Mae’n wir fod mwy o fraster mewn croissants oherwydd eu bod yn cael eu gwneud â menyn. Felly mae’n rhaid i chi ystyried pa mor aml yr ydych am eu bwyta fel dewis arall moethus yn lle’r dorth gron nobl.
Rwyf wedi canfod yn ddiweddar ‘mod i’n dioddef gan anoddefiad o glwten — oes yna’r fath beth â bara di-glwten?
Oes — mae gennym fara di-glwten yn y siop, ac mae gennym flawd di-glwten y gallwch ei ddefnyddio yn yr un modd yn union â blawd cyffredin os ydych am roi cynnig ar bobi’ch bara di-glwten eich hun. Mae dewis eang o ddanteithion di-glwten dengar i’w cael ymysg ein bwydydd ‘Free From’ hefyd, felly does dim angen rhoi’r gorau i’r pethau’r ydych wrth eich bodd â hwy!
Fe hoffwn flasu bara cri er mwyn newid, ond nid wy’n siŵr sut i’w fwyta na beth y dylwn ei fwyta gydag ef. Ydi bara cri mor iach ag y mae pawb yn ei ddweud?
Mae bara cri yn ddewis arall danteithiol yn lle bara cyffredin — ond does dim gwir fanteision iddo o ran iechyd, o’i gymharu â’n dewis o dorthau blasus wedi eu pobi’n gain. Mae tarddiad Mediteranaidd i lawer math o fara cri — mae bara pita’n dod o wlad Groeg, wrth gwrs, ac mae focaccia’n dod o’r Eidal— felly maent yn cyd-fynd yn dda â blasau Mediteranaidd megis hwmws, olewydd, tomatos a’u tebyg. Mae tortilas blawd Mecsicanaidd yn wych ar gyfer brechdanau lapio hefyd, gan wneud newid ysgafn blasus yn lle brechdanau stepen drws.