Fydd teisennau’n cadw’n hirach yn y rhewgell?
Bydd yn rhaid i chi reweiddio teisennau sydd â hufen go iawn neu hufen melysion ynddynt, er mwyn eu cadw’n ffres am o leiaf ddiwrnod neu ddau. Gosodwch hwy mewn cynhwysydd aerglos os oes gennych ddigon o le. Fodd bynnag, bydd y lleithder o’r rhewgell yn eu gwneud yn soeglyd ym mhen yr hir a’r hwyr. Ac nid yw teisennau heb hufen yn para mwy na thua deuddydd, felly’r peth gorau yw peidio ag aros yn rhy hir cyn i chi eu llowcio.
Ydi crwst brau yn well i chi na chrwst pwff, er enghraifft?
Yn sicr mae’n wir fod crwst brau fel rheol y cynnwys llai o fraster. Yn draddodiadol mae crwst brau’n cynnwys un rhan o fraster i ddwy ran o flawd, tra bod crwst pwff, sy’n amlhaenog, yn defnyddio braster a blawd mewn cyfrannau cyfartal. Os ydych yn ystyried gwneud eich pobi eich hun, mae’r math o grwst i’w ddefnyddio’n dibynnu llawer ar y math o saig yr ydych yn ei wneud. Gofynnwch wrth y cownter am awgrymiadau ynglŷn â gwneud crwst melys neu grwst sawrus, neu fe allwch brynu rhywfaint o’n crwst parod, sy’n arbed amser i chi.
Ydi hi’n iawn defnyddio ‘Tupperware’ ar gyfer storio cacennau, teisennau a bisgedi, ynteu a ddylwn i ddefnyddio tun?
Mae’r ddau’n iawn, cyn belled ag y bônt yn aerglos — cadw’r aer allan yw’r allwedd i gadw’ch bisgedi’n grispin ac yn ffres, ac i atal eich cacennau rhag mynd yn ddiflas. Yr hyn y mae’n rhaid i chi beidio â’i wneud yw gadael y danteithion ar y bwrdd — byddant yn mynd heibio’u gorau’n fuan, neu’n cael eu bwyta!
Ydi crwst yn llysieuol?
Ni ddylai crwst sylfaenol gynnwys unrhyw gynhwysion sydd ddim yn addas ar gyfer llysieuwyr. Ond dylai feganiaid fod yn ofalus: yn draddodiadol, mae crwst yn cael ei wneud â blawd, menyn, dŵr a llaeth. Gall rhai mathau o grwst gynnwys wyau a siwgr hefyd. Y newyddion da yw ei bod bellach yn bosibl cael crwst parod sy’n addas ar gyfer feganiaid hefyd.