Rydym yn cynhyrchu mwy o’r bwyd yr ydym yn ei werthu nag unrhyw archfarchnad arall. Mewn gwirionedd, a ninnau’n meddu ar ein ffatrïoedd pacio ffrwythau a llysiau ein hunain, a’n poptai a’n ffatrïoedd prosesu cig a chaws ein hunain, rydym yn un o’r pum prif gynhyrchydd bwyd ym Mhrydain.
Mantais y dull unigryw hwn o weithio, o safbwynt ein cwsmeriaid, yw ein bod yn gallu sicrhau ffynhonnell, ansawdd a ffresni ein bwyd. Mae’n golygu bod gennym mewn stoc, bob amser, y cynnyrch ffres y mae ar ein cwsmeriaid eisiau ei brynu. Ac oherwydd ein bod wedi hepgor y dynion canol, mae’n golygu hefyd ein bod yn gallu cadw’n prisiau’n is.
Wrth gwrs, mae’r cwbl yn dechrau gyda’r ffermwyr a’r tyfwyr yr ydym yn gweithio’n agos gyda hwy i ddethol y bwyd ffres yr ydym yn ei werthu. Rydym wedyn yn prosesu ac yn dosbarthu dros 80% o’n ffrwythau a’n llysiau ffres ein hunain.
Yn ffatri bwyd ffres ‘Farmer’s Boy’ yn Bradford, rydym yn prosesu 90% o’n cig ffres. Rydym yn gwybod beth sydd yn ein selsig a’n pasteiod oherwydd mai ni ein hunain sydd wedi eu gwneud. Ac oherwydd ein bod yn gweithredu ein cerbydau cludo a’n rhwydwaith dosbarthu ein hunain, gallwn sicrhau bod y bwydydd hyn yn cyrraedd y siop yn y cyflwr mwyaf ffres.
See this page in English.