Rydym yn falch o gyhoeddi bod yr holl gig eidion, cig moch a chig oen ffres a werthir yn y 350 a mwy o siopau sydd gennym ledled y wlad yn dod o ffermydd Prydeinig.
O fis Mawrth 2008 ymlaen, mae’r holl gig eidion ffres a werthir yn siopau Morrisons ledled y wlad o’r ansawdd gorau 100% ac yn Brydeinig 100%. Mae hyn yn golygu mai Morrisons yw’r unig un o’r archfarchnadoedd mwyaf blaenllaw yn y DU lle mae’r holl gig eidion, cig oen a chig moch ffres yn dod 100% erbyn hyn o ffynonellau Prydeinig.
Medd Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Morrisons, Chris Blundell,: “Rydym yn wahanol i’r archfarchnadoedd mawr eraill yn yr ystyr ein bod ni’n arbenigo mewn bwyd – byddwn yn cyrchu ac yn trin bwyd ffres ein hunain ac yn ei baratoi yn ffres yn y siop. Rydym eisoes yn gwerthu cig moch a chig oen ffres Prydeinig 100% yn unig ac mae’r symudiad hwn at gig eidion ffres Prydeinig 100% yn rhan o’n hymrwymiad i gynnig bwyd ffres o ffynonellau Prydeinig lle bynnag y gallwn ni a chefnogi ffermio Prydeinig.”
Ac mae Peter Kendall, Llywyd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU), wedi croesawu’r symudiad. “Mae hyn yn newyddion da dros ben. Bydd y ffaith bod un o archfarchnadoedd mwyaf blaenllaw Prydain yn symud drosodd i 100% cig eidion ffres Prydeinig yn galonogol y tu hwnt i ffermwyr da byw. Mae’n adlewyrchu rhagoriaeth y cynnyrch yn ogystal â’r gefnogaeth y mae’n ei chael gan gwsmeriaid Prydeinig, ac fel y cyfryw mae’n gosod esiampl yr ydym yn mawr obeithio y bydd yr holl archfarchnadoedd mawr yn ei dilyn.”