Ym Morrisons, gallwch fod yn sicr bod yr holl bysgod sy’n cael eu gwerthu ar ein cownteri gwobrwyedig wedi dod o stociau cynaliadwy. Rydym yn falch o’n gwaith gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS), sy’n ein cynghori ynglŷn â’r dulliau gorau o wneud hyn.
Er mwyn helpu’n cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus wrth brynu pysgod ffres, mae Morrisons wedi datblygu a chyflwyno labeli sy’n egluro o ble mae’r pysgodyn wedi dod a sut y cafodd ei ddal. “Mae ein cwsmeriaid yn awyddus i wybod o ble mae eu bwyd yn dod, ac i ddysgu mwy,” meddai Brian Dixon, Rheolwr Pysgod Morrisons yn ein siop yn Gamston, Nottingham.
“Yn aml bydd taith i’n cownteri pysgod yn cymell prynwyr i drio mathau ychydig llai cyfarwydd o bysgod. Ochr yn ochr â’r ffefrynnau poblogaidd megis Tiwna, Hadog ac Eog Albanaidd, rydym yn gwerthu pysgod mwy anghyffredin megis Pengernyn a Tilapia. Gyda’r holl gymorth a chyngor sydd ar gael gan ein gwerthwyr pysgod hyfforddedig, mae cwsmeriaid yn gwirioneddol fwynhau’r amrywiaeth eang o rywogaethau sydd ar gael.”
Mae Morrisons yn cydnabod pwysigrwydd byd-eang cyrchu bwyd môr cynaliadwy, ac mae gennym ymrwymiad i gynnal stociau pysgod. A ninnau eisoes yn gwerthu dros 50 math o bysgod, rydym yn ymorol yn gyson am gyflwyno mathau cynaliadwy newydd. Mae pysgod megis Baramwndi ‘New Forest’, Gwrachen Ddu a Lleden yn ddim ond tair o’r rhywogaethau sydd wedi eu cyflwyno hyd yn hyn eleni.
Felly, y tro nesaf y byddwch yn y siop, gofynnwch i’n gwerthwyr pysgod eich cyflwyno i rai o’n dewisiadau blasus newydd!
Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan y Marine Conservation Society.
See this page in English.