Mae Morrisons yn falch mai ni yw’r adwerthwr cyntaf i stocio eogiaid sydd â’r label Bwyd Rhyddid ac sydd hefyd wedi eu hardystio’n rhai organig, mewn 354 o’n siopau ledled y wlad.
Mae ein Ffiledau Eog Albanaidd Diesgyrnedig Organig, a’n Heogiaid Mwg Organig, yn dod o ffermydd sy’n cael eu hasesu yn ôl safonau lles caeth yr RSPCA.
Meddai Lydia Stratton o Fwyd Rhyddid: “Mae’n wir bleser gennym fod Morrisons yn dangos cefnogaeth i gynnydd mewn lles anifeiliaid.”
Mae’r eogiaid yn ymuno â dau o frandiau eraill Morrisons, ‘The Best Breckland Duck’ a ‘Wye Valley Chicken’, fel rhan o ddewis Morrisons o gynhyrchion sydd wedi derbyn cymeradwyaeth Bwyd Rhyddid.
Meddai Matthew Bailey, Prynwr Pysgod Morrisons: “Rydym yn ymhyfrydu mewn darparu’r dewis mwyaf amrywiol o fwyd môr. Mae tarddiad pysgod, a sut y maent yn cael eu trin, yn bwysig i’n cwsmeriaid."
See this page in English.