Mae gan Morrisons ymrwymiad i werthu dim ond pysgod gwirioneddol ffres ar ein cownteri Stryd y Farchnad — pysgod nad ydynt erioed wedi cael eu rhewi. Nid ydym yn stopio gyda hynny chwaith: rydym hefyd wedi ymrwymo i werthu dim ond pysgod sy’n dod o ddyfroedd cynaliadwy.
Rydym yn falch o allu cyhoeddi bod Morrisons, yn ôl archwiliad annibynnol, wedi bodloni’r meini prawf llym ar gyfer cynaliadwyedd, ac ar gyfer y gallu i olrhain ffynonellau, sydd wedi eu gosod gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC). Mae’r ardystiad hwn yn sicrhau bod holl ddolennau’r gadwyn gyflenwi, o ddaliad y pysgod i’r cownter, yn cael eu hardystio.
Meddai Prynwr Pysgod Morrisons, Matthew Bailey: “Ein nod yw rhoi pob hyder i’n cwsmeriaid fod y pysgod yr ydym yn eu gwerthu wedi eu cyrchu mewn modd cyfrifol. Mae’r ardystiad hwn yn sicrhau y gallwn barhau i ddangos ymhellach ein hymrwymiad i gyrchu cynaliadwy.”
See this page in English.
Enter your location (town or postcode).
Sign up to create your online Morrisons binder and get the latest offers and competitions!
Go to my binder
Browse through our recipes to plan your perfect menu.